Casglwyd £56.07 wrth lenwi map o Nepal gyda darnau o arian. Bydd yr arian yn mynd i helpu pobl Nepal ar ôl y daeargryn. Da iawn pawb am eich haelioni. The school raised £56.07 by filling a map of Nepal with loose change. The money raised will go to help the people of Nepal after the earthquaque. Thanks for your kindness. Daeth PC Owen i'r ysgol heddiw i sgwrsio gyda plant y Cyfnod Sylfaen am ddyletswyddau plismon yn y gymuned a pha bryd i ffonio 999. Cafodd y plant mawr gyflwyniad ar beidio siarad â phobl ddiethr a bwlio syber. Pc Owen came to school today to talk to the foundation phase children about the duties of a policeman in our community and when to call 999. key stage 2 children learnet about cyber bullying and learn about not to talk to strangers. Cawsom brynhawn hwyliog a difyr iawn yn gwneud ychydig o waith rhesymu Mathemateg. Thema'r prynhawn oedd y Lusitania. Roedd cyfle i'r rhieni gymryd rhan a chael blas ar waith rhesymu mathemategol sy'n digwydd yn yr ysgol. We had a fun afternoon doing reasoning mathematics. The theme of the afternoon was the Lusitania. The parents had the opportunity to take part and see how reasoning mathematics is taught in the school. Cafodd y plant a staff yr ysgol fore fythgofiadwy yn edrych ar y diffyg ar yr haul. Roedd yr haul yn werth i'w weld. We had a very interesting and an unforgettable morning looking at the eclipse. Cafodd y plant hynaf brofiadau a diwrnod gwerth chweil ym Mhlas Menai. Roedd pawb wedi mwynhau eu hunain a'r tywydd yn gret!
The older children had a great day sailing in Plas Menai. Everyone enjoyed themselves and the weather was great! Daeth rhai o'r plant i'r ysgol heddiw gyda gwalltiau gwirion/cŵl er mwyn codi arian tuag at elusen Comic Relief. Some of the children came to school today with crazy/cool hairstyles to raise money for Comic Relief! Cofiwch am ein prynhawn Masnach Deg. Bydd disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn rhoi cyflwyniad byr am 3 o'g gloch a bydd paned o siocled poeth Masnach Deg at gael. Remember about our Fairtrade afternoon at 3 o'clock. Year 5 and 6 are doing a short presentation and you can have a lovely cup of Fairtrade hot chocolate! |
AwdurCreuwyd y newyddion gan Ysgol Llanaelhaearn. CategoriauArchif
July 2015
|